Disgrifiad o’r Swydd

Graddfa Gyflog
Graddfa Uwch Reolwyr, £75,000 y flwyddyn
Math o gytundeb
Parhaol
Cyfarwyddiaeth
Mind Cymru
Yn adrodd i
Y Prif Weithredwr
Yn gyfrifol am
Nifer o rai’n adrodd yn uniongyrchol yn y lle cyntaf, rheoli perthynasau gyda hyd at chwe uwch reolwr yn yr adrannau corfforaethol
Lleoliad
Gweithio rhwng Canolfannau Mind yng Nghaerdydd a Llundain

Canolfan Genedlaethol Mind Cymru 3ydd Llawr, Quebec House, Castlebridge, Cowbridge Road East, Caerdydd, CF11 9AB

Prif Swyddfa Mind 15-19 Broadway, Stratford, Llundain, E15 4BQ
Oriau
35
Cyfrifoldebau cyllidebol ac atebolrwydd
Cyllideb o tua £1/1.5m

Ynghylch y swydd

Mae Cyfarwyddwr Mind Cymru’n aelod o Dîm Gweithredol Mind ac yn rhannu cyfrifoldeb dros arweinyddiaeth, darpariaeth a datblygiad corfforaethol yr elusen.  Mae’r swydd yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwaith Mind yng Nghymru ac am arwain gwaith gyda rhanddeiliaid allanol yng Nghymru.  Bydd yn rheoli’r berthynas gyda Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid mewn mannau eraill yn Mind i sicrhau y bydd y gwasanaethau a gytunwyd yn cael eu darparu gan adrannau eraill Mind, ac i wneud yn siŵr bod Cymru’n cyfrannu’n gryf at waith yr adrannau hynny.  Bydd yn gyfrifol am sicrhau perthynas waith agos a chefnogol gyda Mind lleol yng Nghymru yn ogystal â gyda Chadeirydd rhwydwaith ‘One Mind in Wales’ ac â Chadeirydd Pwyllgor Cymru.

Bydd gan ddeilydd y swydd lefel arwyddocaol o gyfrifoldeb ac o annibyniaeth yn yr uwch swydd arweinyddiaeth a bydd disgwyl y cedwir at y safonau uchaf o arweinyddiaeth ac o gydweithio.  Disgwylir y bydd deilydd y swydd yn treulio amser fel a ganlyn:

  • Tua thri diwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd, o gofio mai dyma ganolfan y Llywodraeth a’r cyfryngau cenedlaethol ac mai yma hefyd y mae canolfan genedlaethol Mind.
  • O leiaf un diwrnod yr wythnos ar rwydwaith Cymru, yn gweithio gyda, ac yn cefnogi. Mind lleol
  • Hyd at un diwrnod yr wythnos yn Stratford, yn cyfrannu at arweinyddiaeth gorfforaethol yr elusen (fel aelod o Dîm Gweithredol Mind) a sicrhau fod materion Cymru’n cael eu hadlewyrchu’n dda yng ngwaith yr elusen gyfan.

Bydd hyn yn parchu canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Gweithio Gartref.  Rydyn ni’n adolygu ein ffyrdd o weithio ar hyn o bryd.

Cyfrifioldebau Allweddol

  • Fel aelod o Dîm Gweithredol Mind, cymryd penderfyniadau gwybodus ar amrywiaeth eang o faterion polisi a strategol sy’n dylanwadu ar effeithiolrwydd y sefydliad.  Arddangos arweinyddiaeth ragorol bob amser, yn gorfforaethol ac ar gyfer y tîm, a bod yn fodel o weithio ar y cyd gan feithrin diwylliant o gydweithio, hyblygrwydd ac addasrwydd.
  • Bod â throsolwg o’r newidiadau yn yr amgylchedd weithredu yng Nghymru a sicrhau fod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn natblygiad a darpariaeth barhaus strategaeth Mind yng Nghymru.
  • Derbyn cyfrifoldeb dros ddatblygu a gweithredu strategaeth Mind yng Nghymru, llwyddo i gyrraedd yr holl gerrig milltir a sicrhau lefel uchel o berfformiad trefniadol.  Mae hyn yn cynnwys cynllunio a threfnu gwaith cenedlaethol yr elusen yng Nghymru a derbyn atebolrwydd cyffredinol dros berfformiad Mind ledled Cymru.
  • Darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, rhwydweithiau strategol, cydweithredu gyda sefydliadau cenedlaethol eraill ac academyddion mewn iechyd meddwl a meysydd cysylltiedig er mwyn dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth iechyd meddwl.
  • Yn rhagweithiol, nodi, rheoli a darparu synergedd ar draws y sefydliad a’i bartneriaid er mwyn cael yr effaith fwyaf.
  • Derbyn cyfrifoldeb cyffredinol, drwy gysylltu â’r Cyfarwyddwr Rhwydweithiau a Chymunedau, am sefydlu perthynasau gwaith cefnogol gyda Mind lleol yng Nghymru ac annog, yn frwdfrydig, ddatblygu Mind lleol a rhwydwaith Mind yng Nghymru.
  • Darparu arweinyddiaeth i’r rhwydwaith Mind lleol yng Nghymru a gwaith llywodraethiant Pwyllgor Cymru, gan gysylltu â Chadeirydd pob grŵp.
  • Sicrhau, ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Perthynasau Allanol, gynrychiolaeth ar, a gweithio i gael polisïau Mind ar iechyd meddwl, rhai presennol ac yn y dyfodol, wedi eu mabwysiadau yng Nghymru
  • Arwain ar gyfathrebu a bod yn uwch llysgennad, llefarydd a chynrychiolydd Mind yn ôl y gofyn mewn digwyddiadau ac ar y cyfryngau, yng Nghymru ac yn ehangach.
  • Sicrhau y cesglir gwybodaeth yn genedlaethol ac yn lleol a’i fod yn cael ei drosglwyddo o Gymru i hysbysu a dylanwadu ar ddatblygiad polisïau ac ymgyrchoedd iechyd meddwl Mind ar draws yr elusen yn ei chyfanrwydd.
  • Hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau iechyd meddwl drwy bolisïau a gwaith ymgyrchu, drwy weithio gyda rhwydwaith Mind lleol a thrwy waith darparu uniongyrchol Mind Cymru’n genedlaethol.
  • Arwain trafodaethau Mind ar faterion polisi, ariannu a darparu gwasanaeth gyda chyrff llywodraethol gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ogystal â chyda sefydliadau anllywodraethol / masnachol.
  • Sicrhau, drwy gysylltu â’r Cyfarwyddwr Mind Mân-werthu, ddatblygu ac, efallai, ymestyn gwaith mân-werthu Mind yng Nghymru, gan gynnwys cryfhau’r cydweithio rhwng Mind, Mind lleol a Mind Mân-werthu yng Nghymru.
  • Derbyn cyfrifoldeb cyffredinol, gan gysylltu gyda’r Cyfarwyddwr Codi Arian, am sefydlu a rhedeg cyfres o gyfleoedd codi arian a chontractio newydd ar gyfer gwaith Mind, yn genedlaethol ac yn lleol, yng Nghymru,
  • Sicrhau fod Mind yn gweithredu o fewn y dyraniad adnoddau a gytunwyd ar gyfer gwaith yng Nghymru
  • Sicrhau fod gwasanaethau cwsmeriaid Mind yng Nghymru’n rhagorol, yn fewnol ac yn allanol, hyrwyddo’r lefel uchaf o ofal y cwsmer ac, yn ôl y gofyn, datblygu a sefydlu safonau uchel o ofal ac atebolrwydd i’r cwsmer.  Bod yn hyrwyddwr Ansawdd ym mhob agwedd o waith Mind yng Nghymru.
  • Paratoi papurau, adroddiadau a chyflwyniadau ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol, gan gynnwys cyfarfodydd uwch reolwyr, Tîm Gweithredol Mind a phwyllgorau’r ymddiriedolwyr.  Bod yn bresennol a chyfrannu mewn cyfarfodydd, cyfarfodydd briffio, adolygiadau, dyletswydd dyladwy, archwlio a gweithgareddau cydymffurfio.
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a allai fod yn angenrheidiol sy’n gydnaws â natur y swydd a bod yn hyblyg wrth weithio yn y swydd.

Disgwyliadau

Disgwyliadau’r swydd:

  • Cyfrannu at arweinyddiaeth gref ar sail tîm fel aelod o Dîm Gweithredol Mind
  • Cynyddu proffil cyhoeddus a gwleidyddol Mind yng Nghymru
  • Cynyddu’r incwm ar gyfer gwaith Mind, yn lleol ac yn genedlaethol, yng Nghymru
  • Sefydlu perthynas waith gyfeillgar a chydweithredol rhwng Mind Cymru a Mind Lleol yng Nghymru.
  • Sicrhau lefel gref o gysylltiad yng ngwaith Mind yng Nghymru gan bob adran gorfforaethol arall o Mind a sicrhau lefel gref o ymrwymiad gan staff Mind gyda gwaith yr adrannau hynny.
  • Goruchwylio rheoli gweithredol Mind Cymru.
  • Cadw i fyny gyda datblygiadau mewnol ac allanol ac ymateb yn ôl y gofyn.
  • Mynychu a chyfrannau at arolygu a gwerthuso’r broses, cyfarfodydd, hyfforddiant a digwyddiadau eraill yn ôl y gofyn.
  • Cadw at y gofynion cyfreithiol a statudol perthnasol gan gynnwys y Ddeddf Diogelu Data (gan sicrhau lefel briodol o gyfrinachedd bob amser), y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (gan sicrhau Iechyd a Diogelwch eich hunan ac eraill bob amser) ac unrhyw ddeddf berthnasol / elusennol arall.
  • Dangos angerdd dros yr hyn y mae Mind yn ei wneud a’r newidiadau rydyn ni’n eu gwneud ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl.
  • Cydweithio ar draws timau, adrannau, lleoliadau a sefydliadau
  • Sefyll dros yr hyn mae’n ei gredu sydd orau ac ymddiried ynddo’i hunan ac mewn pobl eraill.
  • Bod yn agored gydag eraill a chyda’n gilydd a dangos ymrwymiad i ddysgu
  • Bod yn agored i newid ac ymateb yn hyblyg ac yn gyflym mewn byd cyfnewidiol
  • Dangos ymwybyddiaeth sefydliadol a gweld y darlun ehangach wrth weithio tuag at amcanion
  • Cyfathrebu’n effeithiol, sicrhau fod negeseuon pobl yn cael eu deall a’u bod nhw’n ymdrechu i ddeall eraill.
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth a thrin eraill gyda pharch, dangos sensitifrwydd tuag at wahaniaethau ac annog amrywiaeth; adeiladu ar sgiliau a thalentau gwahanol bobl a gwella ansawdd eu gwaith eu hunain yn ogystal â gwaith pobl eraill.
  • Derbyn cyfrifoldeb am benderfyniadau

Disgwylir i bob aelod o staff Mind arddel ein cenhadaeth, gwerthoedd a’n cymwyseddau. Mae hynny’n golygu y disgwylir:

Rydyn ni wedi ymrwymo i wrthwynebu hiliaeth yn gyfan gwbl ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.  Mae hyn yn flaenoriaeth bennaf i Mind.  Rydyn ni’n cofleidio amrywiaeth ac yn deall fod bod yn sefydliad cynhwysol, gan gydnabod agweddau gwahanol, yn ein gallugoi i ddarparu gwasanaethau rhagorol.   Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau fod ein holl gyflogeion yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gwaith ac i hyrwyddo cydraddoldeb mewn iechyd corfforol a meddyliol i bawb.