Amdanom ni

Ni yw Mind, yr elusen iechyd meddwl. Fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau iddi nes bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth a pharch.

Ers 75 mlynedd, rydyn ni wedi bod yn newid cymdeithas.  Rydyn ni wedi bod yn allweddol yn gwthio iechyd meddwl i fyny’r agenda, all neb ein rhwystro pan ddaw i siarad yn rymus ac yn llwyddiannus ar y cyd â’n hymgyrchwyr.  Mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i’r system iechyd meddwl, i ddeddfwriaeth cydraddoldeb, i’r system budd-daliadau, y newidiadau enfawr mewn agwedd a dealltwriaeth y cyhoedd a’r gwasanaethau a’r cyngor wedi’i deilwra i unigolion, wedi gwneud gwahaniaeth i filoedd ar filoedd o fywydau.

Mae’n adeg allweddol i ymuno â Mind.  Rydyn ni wedi adfywio ein brand eiconig a bydd hynny’n mynd â ni o nerth i nerth wrth i ni, o fis Ebrill, gychwyn ar ein strategaeth newydd, gyda phobl sydd wedi byw’r profiad.  Byddwn yn ymladd y bygythiadau pennaf sy’n wynebu iechyd meddwl heddiw, yn enwedig y rhai ynghylch hil, pobl ifanc a thlodi.  Ar ben hynny, rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad i ddod yn sefydliad gwrth hiliaeth.

Rydyn ni’n ffederasiwn ac rydyn ni’n rhannu diben ac uchelgais gyffredin gyda rhwydwaith o 115 o Mind lleol, annibynnol ledled Cymru a Lloegr, pob un yn darparu gwasanaethau sy’n newid bywydau, gan gynnwys tai â chymorth, llinellau ffôn argyfwng, canolfannau galw heibio, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, cwnsela a bod yn gyfaill.

Mae ein 158 o siopau ar y stryd fawr yn ein helpu i godi arian yn ogystal â rhoi cyfle i filoedd o bobl sydd wedi byw trwy brofiadau o broblemau iechyd meddwl i adfer eu hyder drwy wirfoddoli, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gyfeillgar o wybodaeth sy’n cysylltu â chalon cymunedau lleol.

Mae ein cefnogaeth benodol i wella iechyd meddwl yn y gweithle’n trawsnewid bywydau yn y gwaith i bobl o bob cwr o Gymru a Lloegr.  A ydych chi’n feddyg ar y rheng flaen, yn weithiwr golau glas neu yn y byd adeiladu, rydyn ni’n cefnogi sefydliadau i wneud yn well ar gyfer eu gweithwyr.

Rydyn ni’n cymryd yr ymrwymiad hwnnw o ddifrif  ym Mind hefyd.  Rydyn ni’n cymryd rhan yn ein Mynegai Llesiant yn y Gweithle (sy’n cael ei ddefnyddio gan 120 o gwmnïau yng Nghymru a Lloegr) ac wedi llwyddo i gael Statws Aur yn y rownd ddiwethaf ac, hefyd, rydyn ni’n falch o fod yn Hyrwyddwr Stonewall.  Rydyn ni’n gwneud ymdrech i annog staff i gyfrannu tuag at ein sefydliad: mae ein Fforwm Staff a’n rhwydwaith staff LGBTQI+ a BAME yn allweddol yn ein herio i fod yn sefydliad wirioneddol gynhwysol.

Pobl a’u profiadau bywyd sydd wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.  Rydyn ni’n chwilio am, ac yn helpu i rannu storïau, y bobl hynny sy’n cael eu clywed yn llai aml.  Eu profiadau nhw sy’n tanio ein cyfathrebu allanol.  Eu syniadau nhw sy’n gyrru ein strategaeth ac yn cyfarwyddo ein hymgyrchoedd.  Rydyn ni’n falch fod gan fwy na 50% o’n staff eu profiad nhw eu hunain o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl.

 

Mind Cymru

Diben Mind Cymru yw arwain gwaith Mind yng Nghymru a gwneud yn siŵr bod ein heffaith yn gadarn yn y ddwy genedl.  Mae gan Mind strwythur ffederal o sefydliadau darparu Mind Lleol, gydag 20 yng Nghymru.

Rhagnodi Cymdeithasol

Ffordd yw rhagnodi cymdeithasol o helpu pobl i ymdopi gyda’r pethau yn eu bywydau sy’n gallu eu gwneud yn anhapus neu’n bryderus.  Mae talu sylw i bethau fel hyn yn cymryd ychydig yn fwy o amser ac o gefnogaeth.  Gallwn ni helpu pobl i gael amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogaeth i droi’r gornel yn eu cymunedau lleol.   Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu’n ein gwaith gyda phedwar Mind Lleol (Cwm Taf Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Ystradgynlais ac Aberhonddu) i ganfod sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu gwella iechyd meddwl.  Prosiect peilot yng Nghymru yw hwn sydd ar gael yn ardaloedd y pedwar Mind lleol.  Rydyn ni’n gwerthuso effeithiau’r gwasanaeth, i gesio dod i ddeall yn well sut mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu gwella iechyd meddwl.

Ochr yn Ochr Cymru

Diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Mind Cymru mewn partneriaeth gyda phedwar Mind lleol, wedi arwain y rhaglen Ochr yn Ochr Cymru i wella ansawdd a maint y gefnogaeth cymheiriaid sydd ar gael yn y gymuned. Ers 2018, mae’r rhaglen Ochr yn Ochr Cymru wedi cyrraedd 381 o arweinwyr cymheiriaid mewn pedair ardal yng Nghymru.  Aeth yr arweinwyr cymheiriaid roedden ni’n gweithio gyda nhw ymlaen i roi cefnogaeth cymheiriaid i o leiaf 3,800 o bobl yng Nghymru.

Fy Nghenhedlaeth

Prosiect ar y cyd yw Fy Nghenhedlaeth rhwng Mind Cymru a Mind lleol yng Nghymru i helpu pobl dros 50 oed i gadw’n iach drwy gynyddu eu gwytnwch.  Mae wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gydag Age Cymru a Mind lleol, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Amser i Newid Cymru

Mae Mind Cymru, mewn partneriaeth gyda Hafal, yn falch o ddarparu Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i gael gwared ar y stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu.

Gydag un o bob pedwar ohonom yn cael ein heffeithio gan broblemau iechyd meddwl mewn unrhyw un flwyddyn, mae Amser i Siarad yn anelu at daclo’r stigma a’r gwahaniaethu drwy fodel o gyswllt cymdeithasol a thrwy gael pobl o bob rhan o Gymru i siarad.

Drwy siarad am iechyd meddwl fe allwn ni:

  • gryfhau’r perthynasau gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr
  • cael gwared ar y tabŵ o rywbeth sy’n effeithio ar bawb
  • chwalu stereoteipiau a herio stigma
  • cefnogi pobl wrth iddyn nhw wella