Manyleb Person

Meini Prawf Hanfodol

Profiad

  1. Profiad o uwch reoli neu ar lefel Weithredol yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus, neu breifat yng Nghymru.
  2. Sgiliau amlwg o ddatblygu Strategaeth, cynllunio busnes a darparu
  3. Sgiliau amlwg o ddylanwadu a thrafod a barn wleidyddol gyda hanes o lwyddiant mewn datblygu perthynasau a phartneriaethau proffesiynol cynhyrchiol gydag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau.
  4. Profiad amlwg o arwain newid a thrawsnewid gyda nodweddion amlwg o fod yn asiant arweiniol wrth arwain newid
  5. Profiad amlwg ar lefel weithredol mewn rheoli rhaglenni a phrosiectau
  6. Profiad amlwg ar lefel weithredol o gynllunio ariannol ac o reoli cyllidebau
  7. Ymrwymiad amlwg i’ch datblygiad proffesiynol a phersonol eich hunan
  8. Cymwysterau addysg hyd at lefel gradd a / neu gymwysterau proffesiynol (neu gyfwerth)
  9. Profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o ddeddfwriaeth berthnasol ac o bolisi cenedlaethol a fframweithiau darparu gwasanaeth mewn iechyd meddwl neu feysydd cysylltiedig mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac anabledd.
  10. Gwybodaeth amlwg o bolisi a gweithdrefnau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a’r berthynas gyda gweithdrefnau deddfwriaethol a seneddol y DU

Sgiliau

  1. Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar i gadeirio cyfarfodydd, cyflwyno cyflwyniadau, rhwydweithio a gweithio’n effeithiol gyda staff mewnol ac allanol a rhanddeiliaid ar bob lefel.
  2. Sgiliau rhyngbersonol cryf gan gynnwys gallu trafod, cyflwyno adborth, perswadio, dylanwadu, ymdrin â gwrthdaro, dylanwadu, gweithio’n effeithiol gyda grwpiau ac unigolion gan gynnwys rhai gyda gwahanol bersbectif ac mewn amgylchiadau heriol.
  3. Sgiliau cyfathrebu’n ysgrifenedig cryf i ysgrifennu gohebiaeth uwch a chymhleth, adroddiadau, cyflwyniadau, polisïau, gweithdrefnau, prosesau a phapurau strategaeth.
  4. Sgiliau TG da, gan gynnwys Microsoft Office Outlook, Word, Excel a PowerPoint.
  5. Sgiliau hunan rheoli cryf i weithio’n annibynnol, ar eich liwt eich hunan ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio’ch menter eich hun a bod yn hyblyg ac yn fodlon addasu.
  6. Sgiliau cymryd penderfyniadau rhagorol ac yn hyderus wrth gymryd penderfyniadau strategol a gweithredol.
  7. Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol, amlwg, i gyflawni gwaith i amserlenni a safonau a gytunwyd.
  8. Sgiliau datrys problemau cryf a’r gallu i ganfod atebion creadigol ac arloesol.
  9. Yn rhagorol wrth ddatblygu, gweithredu, rheoli, darparu lefelau gwasanaethau’r cwsmer o’r radd flaenaf o fewn adran.
  10. Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu ymrwymiad i allu gwneud hynny.

Gwybodaeth

  1. Gwybodaeth a dealltwriaeth o genhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac uchelgais Mind a beth mae hynny’n golygu mewn perthynas â’r swydd hon a’r gallu i gynnwys hynny ym mhob agwedd o’r gwaith.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth a beth mae hynny’n ei olygu mewn perthynas â’r swydd hon a’r gallu i gynnwys hynny ym mhob agwedd o’r gwaith.
  3. Arbenigedd arwyddocaol mewn maes arbenigol, technegol neu broffesiynol.
  4. Gwybodaeth o’r maes gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg.

Arall

  1. Yn fodlon teithio a gweithio oriau anghymdeithasol.
  2. Ymrwymiad amlwg i’ch datblygiad proffesiynol a phersonol eich hunan

Meini Prawf Dymunol

  1. Profiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o broblemau iechyd meddwl
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
  3. Gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl yng Nghymru
  4. Profiad o weithio ar lefel uwch mewn sefydliad gyda chymhlethdod a maint tebyg i Mind
  5. Profiad o weithio mewn strwythur ffederal