Sut i Ymgeisio

APPLY HERE

Mae Mind wedi ymrwymo i sicrhau fod amrywiaeth wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud a’n bod ni’n troi ein geiriau’n weithredoedd.   Mae cynrychiolaeth yn cyfrif.  Dyna pam ein bod yn croesawu’n benodol geisiadau oddi wrth ymgeiswyr o  gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig oherwydd eu bod yn cael eu tangynrychioli ar y lefel hon ar ein tîm arweinyddiaeth.  Rydyn ni’n annog ac yn croesawu ceisiadau o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn enwedig y rhai sy’n dangos amrywiaeth ein cynulleidfaoedd, ein cefnogwyr a’n defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y rhai ag anableddau, y rhai sy’n niwroamrywiol, y gymuned LGBTQI+ a’r rhai sydd â phrofiad  o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl.

I ymgeisio am y swydd hon, cyflwynwch y dogfennau canlynol:

  • CV cyfredol
  • Datganiad cefnogi (hyd at ddwy dudalen) sy’n amlinellu eich diddordeb yn y sefydliad penodol hwn ac yn y swydd, a sut ydych chi’n cyd-fynd â’r wybodaeth sydd ar y safle ficro hon.
  • Ffurflen monitro amrywiaeth wedi’i chwblhau.

I ymgeisio am y swydd hon, cyflwynwch eich CV a dogfennau cefnogi ‘Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 08:00’ ar y ddolen hon.

Os hoffech wybod mwy am y swydd hon neu ynghylch y broses ddewis, cysylltwch â‘n partneriaid Chwilio Gweithredol, Green Park ar victoria.wakerley@green-park.co.uk a gofyn am Victoria Wakerley.

Timetable

Dyddiad Cau i Geisiadau
Dydd Gwener 30 Ebrill 2021, 08:00
Cyfweliadau Green Park
Wythnosau’n cychwyn 10 Mai a 17 Mai 2021
Sgyrsiau Anffurfiol
Dydd Iau 27 Mai 2021
Cyfweliadau Terfynol y Panel
Dydd Iau 3 Mehefin 2021