Croeso

Croeso

Diolch am eich diddordeb mewn ymgeisio am y swydd o Gyfarwyddwr Mind Cymru.  Allech chi ddim dewis cyfnod pwysicach i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, nac o ran ein gwaith ni yng Nghymru.

Yn ystod  blynyddoedd diwethaf, mae’r diddordeb mewn iechyd meddwl wedi tyfu, agweddau wedi newid ac ymddygiad wedi gwella.  Mae wedi dod gymaint yn fwy o fywyd pob dydd – yn y cyfryngau, mewn polisi ac yn ein bywydau.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Mind ar y blaen yn llwyddo i gael newid: ni oedd yn arwain yr ymgyrch arloesol Amser i Newid; rydyn ni’n bartneriaid allweddol yn yr ymgyrch Heads Together gyda Dug a Duges Caergrawnt ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gwleidyddion, busnesau ac elusennau eraill i gyflawni newid.

Yng Nghymru, rydyn ni’n uchel iawn ein parch am ein dylanwad a’n gwaith yn y maes cyhoeddus.  Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda rhaglenni o bwys cenedlaethol megis Newid Cymru a Monitro Gweithredol.  Ar lefel leol, mae 20 Mind lleol yn gwneud yn siŵr fod gwreiddiau ein gwaith yn y gymuned.

Mae’r pandemig wedi dangos sut mae’n effeithio ar iechyd meddwl pawb, ond yn enwedig y bobl sydd yn fwy ynysig.  Mae risgiau iechyd meddwl wedi cynyddu mewn pobl gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, a’r rhai sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Covid,   Bydd canlyniadau iechyd meddwl Covid i’w gweld ymhell ar ôl i’r argyfwng iechyd corfforol gilio.

Felly, yn Mind, rydyn ni wedi gosod uchelgais i ni’n hunan ar gyfer y tair blynedd nesaf: annog diddordeb y cyhoedd mewn iechyd meddwl, gwireddu newid gwirioneddol, adeiladu ar gadernid ein henw da yn lleol ac yn genedlaethol fel ffynhonnell arbenigedd i lawer o’n partneriaid a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Yn y swydd hon, fel rhan o uwch dîm rheoli Mind, byddwch yn arwain ein gwaith yng Nghymru i weithredu ein strategaeth newydd ac i wneud yn siŵr y bydd pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch y maen nhw’n ei haeddu.

Mae yna gyfle enfawr i gael newid hir dymor i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich cyfarfod.

Paul Farmer

Prif Weithredwr