Manyleb Person
Meini Prawf Hanfodol
Profiad
- Profiad o uwch reoli neu ar lefel Weithredol yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus, neu breifat yng Nghymru.
- Sgiliau amlwg o ddatblygu Strategaeth, cynllunio busnes a darparu
- Sgiliau amlwg o ddylanwadu a thrafod a barn wleidyddol gyda hanes o lwyddiant mewn datblygu perthynasau a phartneriaethau proffesiynol cynhyrchiol gydag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau.
- Profiad amlwg o arwain newid a thrawsnewid gyda nodweddion amlwg o fod yn asiant arweiniol wrth arwain newid
- Profiad amlwg ar lefel weithredol mewn rheoli rhaglenni a phrosiectau
- Profiad amlwg ar lefel weithredol o gynllunio ariannol ac o reoli cyllidebau
- Ymrwymiad amlwg i’ch datblygiad proffesiynol a phersonol eich hunan
- Cymwysterau addysg hyd at lefel gradd a / neu gymwysterau proffesiynol (neu gyfwerth)
- Profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o ddeddfwriaeth berthnasol ac o bolisi cenedlaethol a fframweithiau darparu gwasanaeth mewn iechyd meddwl neu feysydd cysylltiedig mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac anabledd.
- Gwybodaeth amlwg o bolisi a gweithdrefnau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a’r berthynas gyda gweithdrefnau deddfwriaethol a seneddol y DU
Sgiliau
- Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar i gadeirio cyfarfodydd, cyflwyno cyflwyniadau, rhwydweithio a gweithio’n effeithiol gyda staff mewnol ac allanol a rhanddeiliaid ar bob lefel.
- Sgiliau rhyngbersonol cryf gan gynnwys gallu trafod, cyflwyno adborth, perswadio, dylanwadu, ymdrin â gwrthdaro, dylanwadu, gweithio’n effeithiol gyda grwpiau ac unigolion gan gynnwys rhai gyda gwahanol bersbectif ac mewn amgylchiadau heriol.
- Sgiliau cyfathrebu’n ysgrifenedig cryf i ysgrifennu gohebiaeth uwch a chymhleth, adroddiadau, cyflwyniadau, polisïau, gweithdrefnau, prosesau a phapurau strategaeth.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Microsoft Office Outlook, Word, Excel a PowerPoint.
- Sgiliau hunan rheoli cryf i weithio’n annibynnol, ar eich liwt eich hunan ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio’ch menter eich hun a bod yn hyblyg ac yn fodlon addasu.
- Sgiliau cymryd penderfyniadau rhagorol ac yn hyderus wrth gymryd penderfyniadau strategol a gweithredol.
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol, amlwg, i gyflawni gwaith i amserlenni a safonau a gytunwyd.
- Sgiliau datrys problemau cryf a’r gallu i ganfod atebion creadigol ac arloesol.
- Yn rhagorol wrth ddatblygu, gweithredu, rheoli, darparu lefelau gwasanaethau’r cwsmer o’r radd flaenaf o fewn adran.
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu ymrwymiad i allu gwneud hynny.
Gwybodaeth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o genhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac uchelgais Mind a beth mae hynny’n golygu mewn perthynas â’r swydd hon a’r gallu i gynnwys hynny ym mhob agwedd o’r gwaith.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth a beth mae hynny’n ei olygu mewn perthynas â’r swydd hon a’r gallu i gynnwys hynny ym mhob agwedd o’r gwaith.
- Arbenigedd arwyddocaol mewn maes arbenigol, technegol neu broffesiynol.
- Gwybodaeth o’r maes gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg.
Arall
- Yn fodlon teithio a gweithio oriau anghymdeithasol.
- Ymrwymiad amlwg i’ch datblygiad proffesiynol a phersonol eich hunan
Meini Prawf Dymunol
- Profiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o broblemau iechyd meddwl
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl yng Nghymru
- Profiad o weithio ar lefel uwch mewn sefydliad gyda chymhlethdod a maint tebyg i Mind
- Profiad o weithio mewn strwythur ffederal
